3 Dyma ddrwg ymysg yr holl bethau a wneir dan haul; sef bod yr un diben i bawb: hefyd calon meibion dynion sydd yn llawn drygioni, ac ynfydrwydd sydd yn eu calon tra fyddant fyw, ac ar ôl hynny y maent yn myned at y meirw.
4 Canys i'r neb a fo yng nghymdeithas y rhai byw oll, y mae gobaith: canys gwell yw ci byw na llew marw.
5 Oherwydd y rhai byw a wyddant y byddant feirw: ond nid oes dim gwybodaeth gan y meirw, ac nid oes iddynt wobr mwyach; canys eu coffa hwynt a anghofiwyd.
6 Eu cariad hefyd, a'u cas, a'u cenfigen, a ddarfu yn awr; ac nid oes iddynt gyfran byth mwy o ddim oll a wneir dan yr haul.
7 Dos, bwyta dy fwyd yn llawen, ac yf dy win â chalon hyfryd: canys yn awr cymeradwy gan Dduw dy weithredoedd.
8 Bydded dy ddillad yn wynion bob amser; ac na fydded diffyg olew ar dy ben.
9 Dwg dy fyd yn llawen gyda'th wraig annwyl holl ddyddiau bywyd dy oferedd, y rhai a roddes efe i ti dan yr haul, holl ddyddiau dy oferedd: canys dyna dy ran di yn y bywyd yma, ac yn dy lafur a gymeri dan yr haul.