14 Fel plant ufudd-dod, heb gydymagweddu â'r trachwantau o'r blaen yn eich anwybodaeth:
15 Eithr megis y mae'r neb a'ch galwodd chwi yn sanctaidd, byddwch chwithau hefyd sanctaidd ym mhob ymarweddiad.
16 Oblegid y mae yn ysgrifenedig, Byddwch sanctaidd; canys sanctaidd ydwyf fi.
17 Ac os ydych yn galw ar y Tad, yr hwn sydd heb dderbyn wyneb yn barnu yn ôl gweithred pob un, ymddygwch mewn ofn dros amser eich ymdeithiad:
18 Gan wybod nad â phethau llygredig, megis arian neu aur, y'ch prynwyd oddi wrth eich ofer ymarweddiad, yr hwn a gawsoch trwy draddodiad y tadau;
19 Eithr â gwerthfawr waed Crist, megis oen difeius a difrycheulyd:
20 Yr hwn yn wir a ragordeiniwyd cyn sylfaenu'r byd, eithr a eglurwyd yn yr amseroedd diwethaf er eich mwyn chwi,