1 Pedr 3 BWM

1 Yr un ffunud, bydded y gwragedd ostyngedig i'w gwŷr priod; fel, od oes rhai heb gredu i'r gair, y galler trwy ymarweddiad y gwragedd, eu hennill hwy heb y gair,

2 Wrth edrych ar eich ymarweddiad diwair chwi ynghyd ag ofn.

3 Trwsiad y rhai bydded nid yr un oddi allan, o blethiad gwallt, ac amgylch-osodiad aur, neu wisgad dillad;

4 Eithr bydded cuddiedig ddyn y galon, mewn anllygredigaeth ysbryd addfwyn a llonydd, yr hwn sydd gerbron Duw yn werthfawr.

5 Canys felly gynt yr oedd y gwragedd sanctaidd hefyd, y rhai oedd yn gobeithio yn Nuw, yn ymdrwsio, gan fod yn ddarostyngedig i'w gwŷr priod;

6 Megis yr ufuddhaodd Sara i Abraham, gan ei alw ef yn arglwydd: merched yr hon ydych chwi, tra fyddoch yn gwneuthur yn dda, ac heb ofni dim dychryn.

7 Y gwŷr, yr un ffunud, cydgyfanheddwch â hwynt yn ôl gwybodaeth, gan roddi parch i'r wraig megis i'r llestr gwannaf, fel rhai sydd gyd-etifeddion gras y bywyd; rhag rhwystro eich gweddïau.

8 Am ben hyn, byddwch oll yn unfryd, yn cydoddef â'ch gilydd, yn caru fel brodyr, yn drugarogion, yn fwynaidd:

9 Nid yn talu drwg am ddrwg, neu sen am sen: eithr, yng ngwrthwyneb, yn bendithio; gan wybod mai i hyn y'ch galwyd, fel yr etifeddoch fendith.

10 Canys y neb a ewyllysio hoffi bywyd, a gweled dyddiau da, atalied ei dafod oddi wrth ddrwg, a'i wefusau rhag adrodd twyll:

11 Gocheled y drwg, a gwnaed y da; ceisied heddwch, a dilyned ef.

12 Canys y mae llygaid yr Arglwydd ar y rhai cyfiawn, a'i glustiau ef tuag at eu gweddi hwynt: eithr y mae wyneb yr Arglwydd yn erbyn y rhai sydd yn gwneuthur drwg.

13 A phwy a'ch dryga chwi, os byddwch yn dilyn yr hyn sydd dda?

14 Eithr o bydd i chwi hefyd ddioddef oherwydd cyfiawnder, dedwydd ydych: ond nac ofnwch rhag eu hofn hwynt, ac na'ch cynhyrfer;

15 Eithr sancteiddiwch yr Arglwydd Dduw yn eich calonnau: a byddwch barod bob amser i ateb i bob un a ofynno i chwi reswm am y gobaith sydd ynoch, gydag addfwynder ac ofn:

16 A chennych gydwybod dda; fel yn yr hyn y maent yn eich goganu megis drwgweithredwyr, y cywilyddio'r rhai sydd yn beio ar eich ymarweddiad da chwi yng Nghrist.

17 Canys gwell ydyw, os ewyllys Duw a'i myn, i chwi ddioddef yn gwneuthur daioni, nag yn gwneuthur drygioni.

18 Oblegid Crist hefyd unwaith a ddioddefodd dros bechodau, y Cyfiawn dros yr anghyfiawn, fel y dygai ni at Dduw, wedi ei farwolaethu yn y cnawd, eithr ei fywhau yn yr Ysbryd:

19 Trwy'r hwn yr aeth efe hefyd ac a bregethodd i'r ysbrydion yng ngharchar;

20 Y rhai a fu gynt anufudd, pan unwaith yr oedd hir amynedd Duw yn aros yn nyddiau Noe, tra darperid yr arch, yn yr hon ychydig, sef wyth enaid, a achubwyd trwy ddwfr.

21 Cyffelybiaeth cyfatebol i'r hwn sydd yr awron yn ein hachub ninnau, sef bedydd, (nid bwrw ymaith fudreddi'r cnawd, eithr ymateb cydwybod dda tuag at Dduw;) trwy atgyfodiad Iesu Grist:

22 Yr hwn sydd ar ddeheulaw Duw, wedi myned i'r nef; a'r angylion, a'r awdurdodau, a'r galluoedd, wedi eu darostwng iddo.

Penodau

1 2 3 4 5