22 Gwedi puro eich eneidiau, gan ufuddhau i'r gwirionedd trwy'r Ysbryd, i frawdgarwch diragrith, cerwch eich gilydd o galon bur yn helaeth:
23 Wedi eich aileni, nid o had llygredig, eithr anllygredig, trwy air Duw, yr hwn sydd yn byw ac yn parhau yn dragywydd.
24 Canys pob cnawd fel glaswelltyn yw, a holl ogoniant dyn fel blodeuyn y glaswelltyn. Gwywodd y glaswelltyn, a'i flodeuyn a syrthiodd:
25 Eithr gair yr Arglwydd sydd yn aros yn dragywydd. A hwn yw'r gair a bregethwyd i chwi.