4 I etifeddiaeth anllygredig, a dihalogedig, a diddiflanedig, ac yng nghadw yn y nefoedd i chwi.
5 Y rhai trwy allu Duw ydych gadwedig trwy ffydd i iachawdwriaeth, parod i'w datguddio yn yr amser diwethaf.
6 Yn yr hyn yr ydych yn mawr lawenhau, er eich bod ychydig yr awron, os rhaid yw, mewn tristwch, trwy amryw brofedigaethau:
7 Fel y caffer profiad eich ffydd chwi, yr hwn sydd werthfawrusach na'r aur colladwy, cyd profer ef trwy dân, er mawl, ac anrhydedd, a gogoniant, yn ymddangosiad Iesu Grist:
8 Yr hwn, er nas gwelsoch, yr ydych yn ei garu; yn yr hwn, heb fod yr awron yn ei weled, ond yn credu, yr ydych yn mawr lawenhau â llawenydd anhraethadwy a gogoneddus:
9 Gan dderbyn diwedd eich ffydd, sef iachawdwriaeth eich eneidiau.
10 Am yr hon iachawdwriaeth yr ymofynnodd, ac y manwl chwiliodd y proffwydi, y rhai a broffwydasant am y gras a ddeuai i chwi: