14 Ai i'r llywiawdwyr, megis trwyddo ef wedi eu danfon er dial ar y drwgweithredwyr, a mawl i'r gweithredwyr da.
15 Canys felly y mae ewyllys Duw, fod i chwi trwy wneuthur daioni ostegu anwybodaeth dynion ffolion:
16 Megis yn rhyddion, ac nid â rhyddid gennych megis cochl malais, eithr fel gwasanaethwyr Duw.
17 Perchwch bawb. Cerwch y brawdoliaeth. Ofnwch Dduw. Anrhydeddwch y brenin.
18 Y gweision, byddwch ddarostyngedig gyda phob ofn i'ch meistriaid; nid yn unig i'r rhai da a chyweithas, eithr i'r rhai anghyweithas hefyd.
19 Canys hyn sydd rasol, os yw neb oherwydd cydwybod i Dduw yn dwyn tristwch, gan ddioddef ar gam.
20 Oblegid pa glod yw, os, pan bechoch, a chael eich cernodio, y byddwch dda eich amynedd? eithr os, a chwi'n gwneuthur yn dda, ac yn dioddef, y byddwch dda eich amynedd, hyn sydd rasol gerbron Duw.