4 At yr hwn yr ydych yn dyfod, megis at faen bywiol, a wrthodwyd gan ddynion, eithr etholedig gan Dduw, a gwerthfawr.
5 A chwithau, megis meini bywiol, ydych wedi eich adeiladu yn dŷ ysbrydol, yn offeiriadaeth sanctaidd, i offrymu aberthau ysbrydol, cymeradwy gan Dduw trwy Iesu Grist.
6 Oherwydd paham y cynhwysir yn yr ysgrythur, Wele, yr wyf yn gosod yn Seion benconglfaen, etholedig, a gwerthfawr: a'r hwn a gred ynddo, nis gwaradwyddir.
7 I chwi gan hynny, y rhai ydych yn credu, y mae yn urddas: eithr i'r anufuddion, y maen a wrthododd yr adeiladwyr, hwnnw a wnaed yn ben y gongl,
8 Ac yn faen tramgwydd, ac yn graig rhwystr, i'r rhai sydd yn tramgwyddo wrth y gair, gan fod yn anufudd; i'r hwn beth yr ordeiniwyd hwynt hefyd.
9 Eithr chwychwi ydych rywogaeth etholedig, brenhinol offeiriadaeth, cenedl sanctaidd, pobl briodol i Dduw; fel y mynegoch rinweddau'r hwn a'ch galwodd allan o dywyllwch i'w ryfeddol oleuni ef:
10 Y rhai gynt nid oeddech bobl, ond yn awr ydych bobl i Dduw: y rhai ni chawsech drugaredd, ond yr awron a gawsoch drugaredd.