1 Am hynny gan ddioddef o Grist drosom ni yn y cnawd, chwithau hefyd byddwch wedi eich arfogi â'r un meddwl: oblegid yr hwn a ddioddefodd yn y cnawd, a beidiodd â phechod;
2 Fel na byddo mwyach fyw i chwantau dynion, ond i ewyllys Duw, dros yr amser sydd yn ôl yn y cnawd.
3 Canys digon i ni yr amser a aeth heibio o'r einioes i weithredu ewyllys y Cenhedloedd, gan rodio mewn trythyllwch, trachwantau, meddwdod, cyfeddach, diota, a ffiaidd eilun-addoliad:
4 Yn yr hyn y maent yn ddieithr yn eich cablu chwi, am nad ydych yn cydredeg gyda hwynt i'r unrhyw ormod rhysedd: