1 Paul, apostol Iesu Grist, yn ôl gorchymyn Duw ein Hiachawdwr, a'r Arglwydd Iesu Grist, ein gobaith:
2 At Timotheus, fy mab naturiol yn y ffydd: Gras, trugaredd, a thangnefedd, oddi wrth Dduw ein Tad, a Crist Iesu ein Harglwydd.
3 Megis y deisyfais arnat aros yn Effesus, pan euthum i Facedonia, fel y gellit rybuddio rhai na ddysgont ddim amgen,
4 Ac na ddaliont ar chwedlau, ac achau anorffen, y rhai sydd yn peri cwestiynau yn hytrach nag adeiladaeth dduwiol, yr hon sydd trwy ffydd; gwna felly.
5 Eithr diwedd y gorchymyn yw cariad o galon bur, a chydwybod dda, a ffydd ddiragrith:
6 Oddi wrth yr hyn bethau y gŵyrodd rhai, ac y troesant heibio at ofer siarad;
7 Gan ewyllysio bod yn athrawon o'r ddeddf, heb ddeall na pha bethau y maent yn eu dywedyd, nac am ba bethau y maent yn taeru.