1 Timotheus 2 BWM

1 Cynghori yr ydwyf am hynny, ymlaen pob peth, fod ymbiliau, gweddïau, deisyfiadau, a thalu diolch, dros bob dyn;

2 Dros frenhinoedd, a phawb sydd mewn goruchafiaeth; fel y gallom ni fyw yn llonydd ac yn heddychol mewn pob duwioldeb ac onestrwydd.

3 Canys hyn sydd dda a chymeradwy gerbron Duw ein Ceidwad;

4 Yr hwn sydd yn ewyllysio bod pob dyn yn gadwedig, a'u dyfod i wybodaeth y gwirionedd.

5 Canys un Duw sydd, ac un cyfryngwr hefyd rhwng Duw a dynion, y dyn Crist Iesu;

6 Yr hwn a'i rhoddes ei hunan yn bridwerth dros bawb, i'w dystiolaethu yn yr amseroedd priod.

7 I'r hyn y'm gosodwyd i yn bregethwr, ac yn apostol, (y gwir yr wyf yn ei ddywedyd yng Nghrist, nid wyf yn dywedyd celwydd;) yn athro'r Cenhedloedd mewn ffydd a gwirionedd.

8 Am hynny yr wyf yn ewyllysio i'r gwŷr weddïo ym mhob man, gan ddyrchafu dwylo sanctaidd, heb na dicter na dadl.

9 Yr un modd hefyd, bod i'r gwragedd eu trefnu eu hunain mewn dillad gweddus, gyda gwylder a sobrwydd; nid â gwallt plethedig, neu aur, neu emau, neu ddillad gwerthfawr;

10 Ond, (yr hyn sydd yn gweddu i wragedd a fo yn proffesu duwioldeb,) â gweithredoedd da.

11 Dysged gwraig mewn distawrwydd gyda phob gostyngeiddrwydd.

12 Ond nid wyf yn cenhadu i wraig athrawiaethu, nac ymawdurdodi ar y gŵr, eithr bod mewn distawrwydd.

13 Canys Adda a luniwyd yn gyntaf, yna Efa.

14 Ac nid Adda a dwyllwyd; eithr y wraig, wedi ei thwyllo, oedd yn y camwedd.

15 Eto cadwedig fydd wrth ddwyn plant, os arhosant hwy mewn ffydd, a chariad, a sancteiddrwydd, ynghyd â sobrwydd.

Penodau

1 2 3 4 5 6