16 Eithr o achos hyn y cefais drugaredd, fel y dangosai Iesu Grist ynof fi yn gyntaf bob hiroddef, er siampl i'r rhai a gredant rhag llaw ynddo ef i fywyd tragwyddol.
17 Ac i'r Brenin tragwyddol, anfarwol, anweledig, i'r Duw unig ddoeth, y byddo anrhydedd a gogoniant yn oes oesoedd. Amen.
18 Y gorchymyn hwn yr ydwyf yn ei roddi i ti, fy mab Timotheus, yn ôl y proffwydoliaethau a gerddasant o'r blaen amdanat, ar filwrio ohonot ynddynt filwriaeth dda;
19 Gan fod gennyt ffydd, a chydwybod dda; yr hon a wrthododd rhai, ac a wnaethant longddrylliad am y ffydd:
20 O ba rai y mae Hymeneus ac Alexander; y rhai a roddais i Satan, fel y dysgent na chablent.