4 Ac na ddaliont ar chwedlau, ac achau anorffen, y rhai sydd yn peri cwestiynau yn hytrach nag adeiladaeth dduwiol, yr hon sydd trwy ffydd; gwna felly.
5 Eithr diwedd y gorchymyn yw cariad o galon bur, a chydwybod dda, a ffydd ddiragrith:
6 Oddi wrth yr hyn bethau y gŵyrodd rhai, ac y troesant heibio at ofer siarad;
7 Gan ewyllysio bod yn athrawon o'r ddeddf, heb ddeall na pha bethau y maent yn eu dywedyd, nac am ba bethau y maent yn taeru.
8 Eithr nyni a wyddom mai da yw'r gyfraith, os arfer dyn hi yn gyfreithlon;
9 Gan wybod hyn, nad i'r cyfiawn y rhoddwyd y gyfraith, eithr i'r rhai digyfraith ac anufudd, i'r rhai annuwiol a phechaduriaid, i'r rhai disanctaidd a halogedig, i dad‐leiddiaid a mam‐leiddiaid, i leiddiaid dynion,
10 I buteinwyr, i wryw‐gydwyr, i ladron dynion, i gelwyddwyr, i anudonwyr, ac os oes dim arall yn wrthwyneb i athrawiaeth iachus;