9 Gan wybod hyn, nad i'r cyfiawn y rhoddwyd y gyfraith, eithr i'r rhai digyfraith ac anufudd, i'r rhai annuwiol a phechaduriaid, i'r rhai disanctaidd a halogedig, i dad‐leiddiaid a mam‐leiddiaid, i leiddiaid dynion,
10 I buteinwyr, i wryw‐gydwyr, i ladron dynion, i gelwyddwyr, i anudonwyr, ac os oes dim arall yn wrthwyneb i athrawiaeth iachus;
11 Yn ôl efengyl gogoniant y bendigedig Dduw, am yr hon yr ymddiriedwyd i mi.
12 Ac yr ydwyf yn diolch i'r hwn a'm nerthodd i, sef Crist Iesu ein Harglwydd, am iddo fy nghyfrif yn ffyddlon, gan fy ngosod yn y weinidogaeth;
13 Yr hwn oeddwn o'r blaen yn gablwr, ac yn erlidiwr, ac yn drahaus: eithr mi a gefais drugaredd, am i mi yn ddiarwybod ei wneuthur trwy anghrediniaeth.
14 A gras ein Harglwydd ni a dra-amlhaodd gyda ffydd a chariad, yr hwn sydd yng Nghrist Iesu.
15 Gwir yw'r gair, ac yn haeddu pob derbyniad, ddyfod Crist Iesu i'r byd i gadw pechaduriaid; o ba rai, pennaf ydwyf i.