1 Cynghori yr ydwyf am hynny, ymlaen pob peth, fod ymbiliau, gweddïau, deisyfiadau, a thalu diolch, dros bob dyn;
2 Dros frenhinoedd, a phawb sydd mewn goruchafiaeth; fel y gallom ni fyw yn llonydd ac yn heddychol mewn pob duwioldeb ac onestrwydd.
3 Canys hyn sydd dda a chymeradwy gerbron Duw ein Ceidwad;
4 Yr hwn sydd yn ewyllysio bod pob dyn yn gadwedig, a'u dyfod i wybodaeth y gwirionedd.