11 Dysged gwraig mewn distawrwydd gyda phob gostyngeiddrwydd.
12 Ond nid wyf yn cenhadu i wraig athrawiaethu, nac ymawdurdodi ar y gŵr, eithr bod mewn distawrwydd.
13 Canys Adda a luniwyd yn gyntaf, yna Efa.
14 Ac nid Adda a dwyllwyd; eithr y wraig, wedi ei thwyllo, oedd yn y camwedd.
15 Eto cadwedig fydd wrth ddwyn plant, os arhosant hwy mewn ffydd, a chariad, a sancteiddrwydd, ynghyd â sobrwydd.