2 Rhaid gan hynny i esgob fod yn ddiargyhoedd, yn ŵr un wraig, yn wyliadwrus, yn sobr, yn weddaidd, yn lletygar, yn athrawaidd;
3 Nid yn wingar, nid yn drawydd, nid yn budrelwa; eithr yn dirion, yn anymladdgar, yn ddiariangar;
4 Yn llywodraethu ei dŷ ei hun yn dda, yn dal ei blant mewn ufudd‐dod ynghyd â phob onestrwydd;
5 (Oblegid oni fedr un lywodraethu ei dŷ ei hun, pa fodd y cymer efe ofal dros eglwys Dduw?)
6 Nid yn newyddian yn y ffydd, rhag iddo ymchwyddo, a syrthio i ddamnedigaeth diafol.
7 Ac y mae yn rhaid iddo ef hefyd gael tystiolaeth dda gan y rhai oddi allan; rhag iddo syrthio i waradwydd, ac i fagl diafol.
8 Rhaid i'r diaconiaid yr un ffunud fod yn onest; nid yn ddaueiriog, nid yn ymroi i win lawer, nid yn budrelwa;