4 Yn llywodraethu ei dŷ ei hun yn dda, yn dal ei blant mewn ufudd‐dod ynghyd â phob onestrwydd;
5 (Oblegid oni fedr un lywodraethu ei dŷ ei hun, pa fodd y cymer efe ofal dros eglwys Dduw?)
6 Nid yn newyddian yn y ffydd, rhag iddo ymchwyddo, a syrthio i ddamnedigaeth diafol.
7 Ac y mae yn rhaid iddo ef hefyd gael tystiolaeth dda gan y rhai oddi allan; rhag iddo syrthio i waradwydd, ac i fagl diafol.
8 Rhaid i'r diaconiaid yr un ffunud fod yn onest; nid yn ddaueiriog, nid yn ymroi i win lawer, nid yn budrelwa;
9 Yn dala dirgelwch y ffydd mewn cydwybod bur.
10 A phrofer y rhai hynny hefyd yn gyntaf; yna gwasanaethant swydd diaconiaid, os byddant ddiargyhoedd.