7 Ac y mae yn rhaid iddo ef hefyd gael tystiolaeth dda gan y rhai oddi allan; rhag iddo syrthio i waradwydd, ac i fagl diafol.
8 Rhaid i'r diaconiaid yr un ffunud fod yn onest; nid yn ddaueiriog, nid yn ymroi i win lawer, nid yn budrelwa;
9 Yn dala dirgelwch y ffydd mewn cydwybod bur.
10 A phrofer y rhai hynny hefyd yn gyntaf; yna gwasanaethant swydd diaconiaid, os byddant ddiargyhoedd.
11 Y mae'n rhaid i'w gwragedd yr un modd fod yn onest, nid yn enllibaidd, yn sobr, yn ffyddlon ym mhob peth.
12 Bydded y diaconiaid yn wŷr un wraig, yn llywodraethu eu plant a'u tai eu hunain yn dda.
13 Canys y rhai a wasanaethant swydd diaconiaid yn dda, ydynt yn ennill iddynt eu hunain radd dda, a hyfder mawr yn y ffydd sydd yng Nghrist Iesu.