1 Ac y mae'r Ysbryd yn eglur yn dywedyd yr ymedy rhai yn yr amseroedd diwethaf oddi wrth y ffydd, gan roddi coel i ysbrydion cyfeiliornus, ac i athrawiaethau cythreuliaid;
2 Yn dywedyd celwydd mewn rhagrith, a'u cydwybod eu hunain wedi ei serio â haearn poeth;
3 Yn gwahardd priodi, ac yn erchi ymatal oddi wrth fwydydd, y rhai a greodd Duw i'w derbyn, trwy roddi diolch, gan y ffyddloniaid a'r rhai a adwaenant y gwirionedd.
4 Oblegid y mae pob peth a greodd Duw yn dda, ac nid oes dim i'w wrthod, os cymerir trwy dalu diolch.
5 Canys y mae wedi ei sancteiddio gan air Duw a gweddi.