1 Na cherydda hynafgwr, eithr cynghora ef megis tad; a'r rhai ieuainc, megis brodyr;
2 Yr hen wragedd, megis mamau; y rhai ieuainc, megis chwiorydd, gyda phob purdeb.
3 Anrhydedda'r gwragedd gweddwon, y rhai sydd wir weddwon.
4 Eithr o bydd un weddw ac iddi blant neu ŵyrion, dysgant yn gyntaf arfer duwioldeb gartref, a thalu'r pwyth i'w rhieni: canys hynny sydd dda a chymeradwy gerbron Duw.
5 Eithr yr hon sydd wir weddw ac unig, sydd yn gobeithio yn Nuw, ac yn parhau mewn ymbiliau a gweddïau nos a dydd.