13 A hefyd y maent yn dysgu bod yn segur, gan rodio o amgylch o dŷ i dŷ; ac nid yn segur yn unig, ond hefyd yn wag-siaradus, ac yn rhodresgar, gan adrodd pethau nid ŷnt gymwys.
14 Yr wyf yn ewyllysio gan hynny i'r rhai ieuainc briodi, planta, gwarchod y tŷ, heb roi dim achlysur i'r gwrthwynebwr i ddifenwi.
15 Canys y mae rhai eisoes wedi gŵyro ar ôl Satan.
16 Od oes gan ŵr neu wraig ffyddlon wragedd gweddwon, cynorthwyant hwynt, ac na phwyser ar yr eglwys; fel y gallo hi ddiwallu y gwir weddwon.
17 Cyfrifer yr henuriaid sydd yn llywodraethu yn dda, yn deilwng o barch dauddyblyg; yn enwedig y rhai sydd yn poeni yn y gair a'r athrawiaeth.
18 Canys y mae'r ysgrythur yn dywedyd, Na chae safn yr ych sydd yn dyrnu'r ŷd: ac, Y mae'r gweithiwr yn haeddu ei gyflog.
19 Yn erbyn henuriaid na dderbyn achwyn, oddieithr dan ddau neu dri o dystion.