15 Canys y mae rhai eisoes wedi gŵyro ar ôl Satan.
16 Od oes gan ŵr neu wraig ffyddlon wragedd gweddwon, cynorthwyant hwynt, ac na phwyser ar yr eglwys; fel y gallo hi ddiwallu y gwir weddwon.
17 Cyfrifer yr henuriaid sydd yn llywodraethu yn dda, yn deilwng o barch dauddyblyg; yn enwedig y rhai sydd yn poeni yn y gair a'r athrawiaeth.
18 Canys y mae'r ysgrythur yn dywedyd, Na chae safn yr ych sydd yn dyrnu'r ŷd: ac, Y mae'r gweithiwr yn haeddu ei gyflog.
19 Yn erbyn henuriaid na dderbyn achwyn, oddieithr dan ddau neu dri o dystion.
20 Y rhai sydd yn pechu, cerydda yng ngŵydd pawb, fel y byddo ofn ar y lleill.
21 Gorchymyn yr ydwyf gerbron Duw, a'r Arglwydd Iesu Grist, a'r etholedig angylion, gadw ohonot y pethau hyn heb ragfarn, heb wneuthur dim o gydbartïaeth.