19 Yn erbyn henuriaid na dderbyn achwyn, oddieithr dan ddau neu dri o dystion.
20 Y rhai sydd yn pechu, cerydda yng ngŵydd pawb, fel y byddo ofn ar y lleill.
21 Gorchymyn yr ydwyf gerbron Duw, a'r Arglwydd Iesu Grist, a'r etholedig angylion, gadw ohonot y pethau hyn heb ragfarn, heb wneuthur dim o gydbartïaeth.
22 Na ddod ddwylo yn ebrwydd ar neb, ac na fydd gyfrannog o bechodau rhai eraill: cadw dy hun yn bur.
23 Nac yf ddwfr yn hwy; eithr arfer ychydig win, er mwyn dy gylla a'th fynych wendid.
24 Pechodau rhyw ddynion sydd amlwg o'r blaen, yn rhagflaenu i farn; eithr rhai sydd yn eu canlyn hefyd.
25 Yr un ffunud hefyd y mae gweithredoedd da yn amlwg o'r blaen; a'r rhai sydd amgenach, nis gellir eu cuddio.