4 Eithr o bydd un weddw ac iddi blant neu ŵyrion, dysgant yn gyntaf arfer duwioldeb gartref, a thalu'r pwyth i'w rhieni: canys hynny sydd dda a chymeradwy gerbron Duw.
5 Eithr yr hon sydd wir weddw ac unig, sydd yn gobeithio yn Nuw, ac yn parhau mewn ymbiliau a gweddïau nos a dydd.
6 Ond yr hon sydd drythyll, a fu farw, er ei bod yn fyw.
7 A gorchymyn y pethau hyn, fel y byddont ddiargyhoedd.
8 Ac od oes neb heb ddarbod dros yr eiddo, ac yn enwedig ei deulu, efe a wadodd y ffydd, a gwaeth yw na'r di‐ffydd.
9 Na ddewiser yn weddw un a fo dan drigeinmlwydd oed, yr hon fu wraig i un gŵr,
10 Yn dda ei gair am weithredoedd da; os dygodd hi blant i fyny, os bu letygar, o golchodd hi draed y saint, o chynorthwyodd hi y rhai cystuddiol, o dilynodd hi bob gorchwyl da.