18 Ar iddynt wneuthur daioni, ymgyfoethogi mewn gweithredoedd da, fod yn hawdd ganddynt roddi a chyfrannu;
19 Yn trysori iddynt eu hunain sail dda erbyn yr amser sydd ar ddyfod, fel y caffont afael ar y bywyd tragwyddol.
20 O Timotheus, cadw'r hyn a roddwyd i'w gadw atat, gan droi oddi wrth halogedig ofer‐sain, a gwrthwyneb gwybodaeth, a gamenwir felly:
21 Yr hon tra yw rhai yn ei phroffesu, hwy a gyfeiliornasant o ran y ffydd. Gras fyddo gyda thi. Amen.Y cyntaf at Timotheus a ysgrifennwyd o Laodicea, yr hon yw prifddinas Phrygia Pacatiana.