1 Paul, a Silfanus, a Thimotheus, at eglwys y Thesaloniaid, yn Nuw ein Tad, a'r Arglwydd Iesu Grist:
2 Gras i chwi, a thangnefedd, oddi wrth Dduw ein Tad ni, a'r Arglwydd Iesu Grist.
3 Diolch a ddylem i Dduw yn wastadol drosoch, frodyr, fel y mae yn addas, oblegid bod eich ffydd chwi yn mawr gynyddu, a chariad pob un ohonoch oll tuag at eich gilydd yn ychwanegu;
4 Hyd onid ydym ni ein hunain yn gorfoleddu ynoch chwi yn eglwysi Duw, oherwydd eich amynedd chwi a'ch ffydd yn eich holl erlidiau a'r gorthrymderau yr ydych yn eu goddef:
5 Yr hyn sydd argoel golau o gyfiawn farn Duw, fel y'ch cyfrifer yn deilwng i deyrnas Dduw, er mwyn yr hon yr ydych hefyd yn goddef.
6 Canys cyfiawn yw gerbron Duw, dalu cystudd i'r rhai sydd yn eich cystuddio chwi;