2 Thesaloniaid 2 BWM

1 Ac yr ydym yn atolwg i chwi, frodyr, er dyfodiad ein Harglwydd Iesu Grist, a'n cydgynulliad ninnau ato ef,

2 Na'ch sigler yn fuan oddi wrth eich meddwl, ac na'ch cynhyrfer, na chan ysbryd, na chan air, na chan lythyr, megis oddi wrthym ni, fel pe bai dydd Crist yn gyfagos.

3 Na thwylled neb chwi mewn un modd: oblegid ni ddaw'r dydd hwnnw hyd oni ddêl ymadawiad yn gyntaf, a datguddio'r dyn pechod, mab y golledigaeth;

4 Yr hwn sydd yn gwrthwynebu, ac yn ymddyrchafu goruwch pob peth a elwir yn Dduw, neu a addolir; hyd onid yw efe, megis Duw, yn eistedd yn nheml Duw, ac yn ei ddangos ei hun mai Duw ydyw.

5 Onid cof gennych chwi, pan oeddwn i eto gyda chwi, ddywedyd ohonof y pethau hyn i chwi?

6 Ac yr awron chwi a wyddoch yr hyn sydd yn atal, fel y datguddier ef yn ei bryd ei hun.

7 Canys y mae dirgelwch yr anwiredd yn gweithio eisoes: yn unig yr hwn sydd yr awron yn atal, a etyl nes ei dynnu ymaith.

8 Ac yna y datguddir yr Anwir hwnnw, yr hwn a ddifetha'r Arglwydd ag ysbryd ei enau, ac a ddilea â disgleirdeb ei ddyfodiad:

9 Sef yr hwn y mae ei ddyfodiad yn ôl gweithrediad Satan, gyda phob nerth, ac arwyddion, a rhyfeddodau gau,

10 A phob dichell anghyfiawnder yn y rhai colledig; am na dderbyniasant gariad y gwirionedd, fel y byddent gadwedig.

11 Ac am hynny y denfyn Duw iddynt hwy amryfusedd cadarn, fel y credont gelwydd:

12 Fel y barner yr holl rai nid oeddynt yn credu i'r gwirionedd, ond yn ymfodloni mewn anghyfiawnder.

13 Eithr nyni a ddylem ddiolch yn wastad i Dduw drosoch chwi, frodyr caredig gan yr Arglwydd, oblegid i Dduw o'r dechreuad eich ethol chwi i iachawdwriaeth, trwy sancteiddiad yr Ysbryd, a ffydd i'r gwirionedd:

14 I'r hyn y galwodd efe chwi trwy ein hefengyl ni, i feddiannu gogoniant ein Harglwydd Iesu Grist.

15 Am hynny, frodyr, sefwch, a deliwch y traddodiadau a ddysgasoch, pa un bynnag ai trwy ymadrodd, ai trwy ein hepistol ni.

16 A'n Harglwydd Iesu Grist ei hun, a Duw a'n Tad, yr hwn a'n carodd ni, ac a roddes inni ddiddanwch tragwyddol, a gobaith da trwy ras,

17 A ddiddano eich calonnau chwi, ac a'ch sicrhao ym mhob gair a gweithred dda.

Penodau

1 2 3