12 Ond i'r cyfryw gorchymyn yr ydym, a'u hannog trwy ein Harglwydd Iesu Grist, ar iddynt weithio trwy lonyddwch, a bwyta eu bara eu hunain.
13 A chwithau, frodyr, na ddiffygiwch yn gwneuthur daioni.
14 Ond od oes neb heb ufuddhau i'n gair trwy y llythyr yma, hysbyswch hwnnw; ac na fydded i chwi gymdeithas ag ef, megis y cywilyddio efe.
15 Er hynny na chymerwch ef megis gelyn, eithr cynghorwch ef fel brawd.
16 Ac Arglwydd y tangnefedd ei hun a roddo i chwi dangnefedd yn wastadol ym mhob modd. Yr Arglwydd a fyddo gyda chwi oll.
17 Yr annerch â'm llaw i Paul fy hun; yr hyn sydd arwydd ym mhob epistol: fel hyn yr ydwyf yn ysgrifennu.
18 Gras ein Harglwydd Iesu Grist gyda chwi oll. Amen.Yr ail at y Thesaloniaid a ysgrifennwyd o Athen.