1 Yr henuriad at yr annwyl Gaius, yr hwn yr wyf yn ei garu mewn gwirionedd.
2 Yr anwylyd, yr ydwyf yn bennaf dim yn dymuno dy fod yn llwyddo ac yn iach, fel y mae dy enaid yn llwyddo.
3 Canys mi a lawenychais yn fawr, pan ddaeth y brodyr, a thystiolaethu am dy wirionedd di, megis ag yr ydwyt yn rhodio mewn gwirionedd.
4 Mwy llawenydd na hyn nid oes gennyf, sef cael clywed bod fy mhlant yn rhodio mewn gwirionedd.
5 Yr anwylyd, yr ydwyt yn gwneuthur yn ffyddlon yr hyn yr ydwyt yn ei wneuthur tuag at y brodyr, a thuag at ddieithriaid;
6 Y rhai a dystiolaethasant am dy gariad di gerbron yr eglwys: y rhai os hebryngi fel y gweddai i Dduw, da y gwnei.
7 Canys er mwyn ei enw yr aethant allan, heb gymryd dim gan y Cenhedloedd.
8 Ni a ddylem gan hynny dderbyn y cyfryw rai, fel y byddom gyd-gynorthwywyr i'r gwirionedd.
9 Mi a ysgrifennais at yr eglwys: eithr Diotreffes, yr hwn sydd yn chwennych y blaen yn eu plith hwy, ni dderbyn ddim ohonom.
10 Oherwydd hyn, os deuaf, mi a ddygaf ar gof ei weithredoedd y mae efe yn eu gwneuthur, gan wag siarad i'n herbyn â geiriau drygionus: ac heb fod yn fodlon ar hynny, nid yw efe ei hun yn derbyn y brodyr; a'r rhai sydd yn ewyllysio, y mae yn eu gwahardd, ac yn eu bwrw allan o'r eglwys.
11 Anwylyd, na ddilyn yr hyn sydd ddrwg, ond yr hyn sydd dda. Yr hwn sydd yn gwneuthur daioni, o Dduw y mae: ond yr hwn sydd yn gwneuthur drygioni, ni welodd Dduw.
12 Y mae i Demetrius air da gan bawb, a chan y gwirionedd ei hun: a ninnau hefyd ein hunain ydym yn tystiolaethu; a chwi a wyddoch fod ein tystiolaeth ni yn wir.
13 Yr oedd gennyf lawer o bethau i'w hysgrifennu, ond nid wyf yn chwennych ysgrifennu ag inc a phin atat ti:
14 Eithr gobeithio yr ydwyf gael dy weled ar fyrder, ac ni a ymddiddanwn wyneb yn wyneb.
15 Tangnefedd i ti. Y mae'r cyfeillion i'th annerch. Annerch y cyfeillion wrth eu henwau.