Colosiaid 4 BWM

1 Y meistriaid, gwnewch i'ch gweision yr hyn sydd gyfiawn ac union; gan wybod fod i chwithau Feistr yn y nefoedd.

2 Parhewch mewn gweddi, gan wylied ynddi gyda diolchgarwch;

3 Gan weddïo hefyd drosom ninnau, ar i Dduw agori i ni ddrws ymadrodd, i adrodd dirgelwch Crist, am yr hwn yr ydwyf hefyd mewn rhwymau:

4 Fel yr eglurhawyf ef, megis y mae yn rhaid i mi ei draethu.

5 Rhodiwch mewn doethineb tuag at y rhai sydd allan, gan brynu'r amser.

6 Bydded eich ymadrodd bob amser yn rasol, wedi ei dymheru â halen, fel y gwypoch pa fodd y mae yn rhaid i chwi ateb i bob dyn.

7 Fy holl helynt i a fynega Tychicus i chwi, y brawd annwyl, a'r gweinidog ffyddlon, a'r cyd‐was yn yr Arglwydd:

8 Yr hwn a ddanfonais atoch er mwyn hyn, fel y gwybyddai eich helynt chwi, ac y diddanai eich calonnau chwi;

9 Gydag Onesimus, y ffyddlon a'r annwyl frawd, yr hwn sydd ohonoch chwi. Hwy a hysbysant i chwi bob peth a wneir yma.

10 Y mae Aristarchus, fy nghyd‐garcharor, yn eich annerch; a Marc, nai Barnabas fab ei chwaer, (am yr hwn y derbyniasoch orchmynion: os daw efe atoch, derbyniwch ef;)

11 A Jesus, yr hwn a elwir Jwstus, y rhai ydynt o'r enwaediad. Y rhai hyn yn unig yw fy nghyd‐weithwyr i deyrnas Dduw, y rhai a fuant yn gysur i mi.

12 Y mae Epaffras, yr hwn sydd ohonoch, gwas Crist, yn eich annerch, gan ymdrechu yn wastadol drosoch mewn gweddïau, ar i chwi sefyll yn berffaith ac yn gyflawn yng nghwbl o ewyllys Duw.

13 Canys yr ydwyf yn dyst iddo, fod ganddo sêl mawr trosoch chwi, a'r rhai o Laodicea, a'r rhai o Hierapolis.

14 Y mae Luc y ffisigwr annwyl, a Demas, yn eich annerch.

15 Anerchwch y brodyr sydd yn Laodicea, a Nymffas, a'r eglwys sydd yn ei dŷ ef.

16 Ac wedi darllen yr epistol hwn gyda chwi, perwch ei ddarllen hefyd yn eglwys y Laodiceaid: a darllen ohonoch chwithau yr un o Laodicea.

17 A dywedwch wrth Archipus, Edrych at y weinidogaeth a dderbyniaist yn yr Arglwydd, ar i ti ei chyflawni hi.

18 Yr annerch â'm llaw i Paul fy hun. Cofiwch fy rhwymau. Gras fyddo gyda chwi. Amen.At y Colosiaid yr ysgrifennwyd o Rufain, gyda Thychicus ac Onesimus.

Penodau

1 2 3 4