1 Datguddiad Iesu Grist, yr hwn a roddes Duw iddo ef, i ddangos i'w wasanaethwyr y pethau sydd raid eu dyfod i ben ar fyrder; a chan ddanfon trwy ei angel, efe a'i hysbysodd i'w wasanaethwr Ioan:
2 Yr hwn a dystiolaethodd air Duw, a thystiolaeth Iesu Grist, a'r holl bethau a welodd.
3 Dedwydd yw'r hwn sydd yn darllen, a'r rhai sydd yn gwrando geiriau'r broffwydoliaeth hon, ac yn cadw y pethau sydd yn ysgrifenedig ynddi: canys y mae'r amser yn agos.
4 Ioan at y saith eglwys sydd yn Asia: Gras fyddo i chwi, a thangnefedd, oddi wrth yr hwn sydd, a'r hwn a fu, a'r hwn sydd ar ddyfod; ac oddi wrth y saith Ysbryd sydd gerbron ei orseddfainc ef;
5 Ac oddi wrth Iesu Grist, yr hwn yw y Tyst ffyddlon, y Cyntaf-anedig o'r meirw, a Thywysog brenhinoedd y ddaear. Iddo ef yr hwn a'n carodd ni, ac a'n golchodd ni oddi wrth ein pechodau yn ei waed ei hun,