1 A'r pumed angel a utganodd; ac mi a welais seren yn syrthio o'r nef i'r ddaear: a rhoddwyd iddo ef agoriad y pydew heb waelod.
2 Ac efe a agorodd y pydew heb waelod; a chododd mwg o'r pydew, fel mwg ffwrn fawr: a thywyllwyd yr haul a'r awyr gan fwg y pydew.
3 Ac o'r mwg y daeth allan locustiaid ar y ddaear; a rhoddwyd awdurdod iddynt, fel y mae gan ysgorpionau'r ddaear awdurdod.
4 A dywedwyd wrthynt, na wnaent niwed i laswellt y ddaear, nac i ddim gwyrddlas, nac i un pren; ond yn unig i'r dynion oedd heb sêl Duw yn eu talcennau.
5 A rhoddwyd iddynt na laddent hwynt, ond bod iddynt eu blino hwy bum mis: ac y byddai eu gofid hwy fel gofid oddi wrth ysgorpion, pan ddarfyddai iddi frathu dyn.
6 Ac yn y dyddiau hynny y cais dynion farwolaeth, ac nis cânt; ac a chwenychant farw, a marwolaeth a gilia oddi wrthynt.
7 A dull y locustiaid oedd debyg i feirch wedi eu paratoi i ryfel; ac yr oedd ar eu pennau megis coronau yn debyg i aur, a'u hwynebau fel wynebau dynion.
8 A gwallt oedd ganddynt fel gwallt gwragedd, a'u dannedd oedd fel dannedd llewod.
9 Ac yr oedd ganddynt lurigau fel llurigau haearn; a llais eu hadenydd oedd fel llais cerbydau llawer o feirch yn rhedeg i ryfel.
10 Ac yr oedd ganddynt gynffonnau tebyg i ysgorpionau, ac yr oedd colynnau yn eu cynffonnau hwy: a'u gallu oedd i ddrygu dynion bum mis.
11 Ac yr oedd ganddynt frenin arnynt, sef angel y pydew diwaelod: a'i enw ef yn Hebraeg ydyw Abadon, ac yn Roeg y mae iddo enw Apolyon.
12 Un wae a aeth heibio; wele, y mae yn dyfod eto ddwy wae ar ôl hyn.
13 A'r chweched angel a utganodd; ac mi a glywais lef allan o bedwar corn yr allor aur, yr hon sydd gerbron Duw.
14 Yn dywedyd wrth y chweched angel, yr hwn oedd â'r utgorn ganddo, Gollwng yn rhydd y pedwar angel sydd yn rhwym yn yr afon fawr Ewffrates.
15 A gollyngwyd y pedwar angel, y rhai oedd wedi eu paratoi erbyn awr, a diwrnod, a mis, a blwyddyn, fel y lladdent y traean o'r dynion.
16 A rhifedi'r llu o wŷr meirch oedd ddwy fyrddiwn o fyrddiynau: ac mi a glywais eu rhifedi hwynt.
17 Ac fel hyn y gwelais i'r meirch yn y weledigaeth, a'r rhai oedd yn eistedd arnynt, a chanddynt lurigau tanllyd, ac o liw hyacinth a brwmstan: a phennau'r meirch oedd fel pennau llewod; ac yr oedd yn myned allan o'u safnau, dân, a mwg, a brwmstan.
18 Gan y tri hyn y llas traean y dynion, gan y tân, a chan y mwg, a chan y brwmstan, oedd yn dyfod allan o'u safnau hwynt.
19 Canys eu gallu hwy sydd yn eu safn, ac yn eu cynffonnau: canys y cynffonnau oedd debyg i seirff, a phennau ganddynt; ac â'r rhai hynny y maent yn drygu.
20 A'r dynion eraill, y rhai ni laddwyd gan y plâu hyn, nid edifarhasant oddi wrth weithredoedd eu dwylo eu hun, fel nad addolent gythreuliaid, a delwau aur, ac arian, a phres, a main, a phrennau, y rhai ni allant na gweled, na chlywed, na rhodio:
21 Ac nid edifarhasant oddi wrth eu llofruddiaeth, nac oddi wrth eu cyfareddion, nac oddi wrth eu godineb, nac oddi wrth eu lladrad.