15 A'i draed yn debyg i bres coeth, megis yn llosgi mewn ffwrn; a'i lais fel sŵn llawer o ddyfroedd.
16 Ac yr oedd ganddo yn ei law ddeau saith seren: ac o'i enau yr oedd cleddau llym daufiniog yn dyfod allan: a'i wynepryd fel yr haul yn disgleirio yn ei nerth.
17 A phan welais ef, mi a syrthiais wrth ei draed ef fel marw. Ac efe a osododd ei law ddeau arnaf fi, gan ddywedyd wrthyf, Nac ofna; myfi yw'r cyntaf a'r diwethaf:
18 A'r hwn wyf fyw, ac a fûm farw; ac wele, byw ydwyf yn oes oesoedd, Amen; ac y mae gennyf agoriadau uffern a marwolaeth.
19 Ysgrifenna'r pethau a welaist, a'r pethau sydd, a'r pethau a fydd ar ôl hyn;
20 Dirgelwch y saith seren a welaist yn fy llaw ddeau, a'r saith ganhwyllbren aur. Y saith seren, angylion y saith eglwys ydynt: a'r saith ganhwyllbren a welaist, y saith eglwys ydynt.