2 Yr hwn a dystiolaethodd air Duw, a thystiolaeth Iesu Grist, a'r holl bethau a welodd.
3 Dedwydd yw'r hwn sydd yn darllen, a'r rhai sydd yn gwrando geiriau'r broffwydoliaeth hon, ac yn cadw y pethau sydd yn ysgrifenedig ynddi: canys y mae'r amser yn agos.
4 Ioan at y saith eglwys sydd yn Asia: Gras fyddo i chwi, a thangnefedd, oddi wrth yr hwn sydd, a'r hwn a fu, a'r hwn sydd ar ddyfod; ac oddi wrth y saith Ysbryd sydd gerbron ei orseddfainc ef;
5 Ac oddi wrth Iesu Grist, yr hwn yw y Tyst ffyddlon, y Cyntaf-anedig o'r meirw, a Thywysog brenhinoedd y ddaear. Iddo ef yr hwn a'n carodd ni, ac a'n golchodd ni oddi wrth ein pechodau yn ei waed ei hun,
6 Ac a'n gwnaeth ni yn frenhinoedd ac yn offeiriaid i Dduw a'i Dad ef; iddo ef y byddo'r gogoniant a'r gallu yn oes oesoedd. Amen.
7 Wele, y mae efe yn dyfod gyda'r cymylau; a phob llygad a'i gwêl ef, ie, y rhai a'i gwanasant ef: a holl lwythau'r ddaear a alarant o'i blegid ef. Felly, Amen.
8 Mi yw Alffa ac Omega, y dechrau a'r diwedd, medd yr Arglwydd, yr hwn sydd, a'r hwn oedd, a'r hwn sydd i ddyfod, yr Hollalluog.