5 Ac oddi wrth Iesu Grist, yr hwn yw y Tyst ffyddlon, y Cyntaf-anedig o'r meirw, a Thywysog brenhinoedd y ddaear. Iddo ef yr hwn a'n carodd ni, ac a'n golchodd ni oddi wrth ein pechodau yn ei waed ei hun,
6 Ac a'n gwnaeth ni yn frenhinoedd ac yn offeiriaid i Dduw a'i Dad ef; iddo ef y byddo'r gogoniant a'r gallu yn oes oesoedd. Amen.
7 Wele, y mae efe yn dyfod gyda'r cymylau; a phob llygad a'i gwêl ef, ie, y rhai a'i gwanasant ef: a holl lwythau'r ddaear a alarant o'i blegid ef. Felly, Amen.
8 Mi yw Alffa ac Omega, y dechrau a'r diwedd, medd yr Arglwydd, yr hwn sydd, a'r hwn oedd, a'r hwn sydd i ddyfod, yr Hollalluog.
9 Myfi Ioan, yr hwn wyf hefyd eich brawd, a'ch cydymaith mewn cystudd, ac yn nheyrnas ac amynedd Iesu Grist, oeddwn yn yr ynys a elwir Patmos, am air Duw, ac am dystiolaeth Iesu Grist.
10 Yr oeddwn i yn yr ysbryd ar ddydd yr Arglwydd; ac a glywais o'r tu ôl i mi lef fawr fel llais utgorn,
11 Yn dywedyd, Mi yw Alffa ac Omega, y cyntaf a'r diwethaf: a'r hyn yr wyt yn ei weled, ysgrifenna mewn llyfr, a danfon i'r saith eglwys y rhai sydd yn Asia; i Effesus, ac i Smyrna, ac i Pergamus, ac i Thyatira, ac i Sardis, a Philadelffia, a Laodicea.