1 Ac mi a welais angel cryf arall yn disgyn o'r nef, wedi ei wisgo â chwmwl: ac enfys oedd ar ei ben, a'i wyneb ydoedd fel yr haul, a'i draed fel colofnau o dân:
2 Ac yr oedd ganddo yn ei law lyfr bychan wedi ei agoryd. Ac efe a osododd ei droed deau ar y môr, a'i aswy ar y tir;
3 Ac a lefodd â llef uchel, fel y rhua llew: ac wedi iddo lefain, y saith daran a lefarasant eu llefau hwythau.
4 Ac wedi darfod i'r saith daran lefaru eu llefau, yr oeddwn ar fedr ysgrifennu: ac mi a glywais lef o'r nef yn dywedyd wrthyf, Selia'r pethau a lefarodd y saith daran, ac nac ysgrifenna hwynt.
5 A'r angel yr hwn a welais yn sefyll ar y môr, ac ar y tir, a gododd ei law i'r nef,
6 Ac a dyngodd i'r hwn sydd yn byw yn oes oesoedd, yr hwn a greodd y nef a'r pethau sydd ynddi, a'r ddaear a'r pethau sydd ynddi, a'r môr a'r pethau sydd ynddo, na byddai amser mwyach: