3 Ac a lefodd â llef uchel, fel y rhua llew: ac wedi iddo lefain, y saith daran a lefarasant eu llefau hwythau.
4 Ac wedi darfod i'r saith daran lefaru eu llefau, yr oeddwn ar fedr ysgrifennu: ac mi a glywais lef o'r nef yn dywedyd wrthyf, Selia'r pethau a lefarodd y saith daran, ac nac ysgrifenna hwynt.
5 A'r angel yr hwn a welais yn sefyll ar y môr, ac ar y tir, a gododd ei law i'r nef,
6 Ac a dyngodd i'r hwn sydd yn byw yn oes oesoedd, yr hwn a greodd y nef a'r pethau sydd ynddi, a'r ddaear a'r pethau sydd ynddi, a'r môr a'r pethau sydd ynddo, na byddai amser mwyach:
7 Ond yn nyddiau llef y seithfed angel, pan ddechreuo efe utganu, gorffennir dirgelwch Duw, fel y mynegodd efe i'w wasanaethwyr y proffwydi.
8 A'r llef a glywais o'r nef, a lefarodd drachefn wrthyf, ac a ddywedodd, Dos, cymer y llyfr bychan sydd wedi ei agoryd yn llaw'r angel yr hwn sydd yn sefyll ar y môr, ac ar y tir.
9 Ac mi a euthum at yr angel, gan ddywedyd wrtho, Moes i mi'r llyfr bychan. Ac efe a ddywedodd wrthyf, Cymer, a bwyta ef yn llwyr: ac efe a chwerwa dy fol di, eithr yn dy enau y bydd yn felys fel mêl.