1 A rhoddwyd imi gorsen debyg i wialen. A'r angel a safodd, gan ddywedyd, Cyfod, a mesura deml Dduw, a'r allor, a'r rhai sydd yn addoli ynddi.
2 Ond y cyntedd sydd o'r tu allan i'r deml, bwrw allan, ac na fesura ef; oblegid efe a roddwyd i'r Cenhedloedd: a'r ddinas sanctaidd a fathrant hwy ddeufis a deugain.
3 Ac mi a roddaf allu i'm dau dyst, a hwy a broffwydant fil a deucant a thri ugain o ddyddiau wedi ymwisgo â sachliain.
4 Y rhai hyn yw'r ddwy olewydden, a'r ddau ganhwyllbren sydd yn sefyll gerbron Duw'r ddaear.