15 A'r seithfed angel a utganodd; a bu llefau uchel yn y nef, yn dywedyd, Aeth teyrnasoedd y byd yn eiddo ein Harglwydd ni, a'i Grist ef; ac efe a deyrnasa yn oes oesoedd.
16 A'r pedwar henuriad ar hugain, y rhai oedd gerbron Duw yn eistedd ar eu gorseddfeinciau, a syrthiasant ar eu hwynebau, ac a addolasant Dduw,
17 Gan ddywedyd, Yr ydym yn diolch i ti, O Arglwydd Dduw Hollalluog, yr hwn wyt, a'r hwn oeddit, a'r hwn wyt yn dyfod; oblegid ti a gymeraist dy allu mawr, ac a deyrnesaist.
18 A'r cenhedloedd a ddigiasant; a daeth dy ddig di, a'r amser i farnu'r meirw, ac i roi gwobr i'th wasanaethwyr y proffwydi, ac i'r saint, ac i'r rhai sydd yn ofni dy enw, fychain a mawrion; ac i ddifetha'r rhai sydd yn difetha'r ddaear.
19 Ac agorwyd teml Dduw yn y nef; a gwelwyd arch ei gyfamod ef yn ei deml ef: a bu mellt, a llefau, a tharanau, a daeargryn, a chenllysg mawr.