6 Y mae gan y rhai hyn awdurdod i gau'r nef, fel na lawio hi yn nyddiau eu proffwydoliaeth hwynt: ac awdurdod sydd ganddynt ar y dyfroedd, i'w troi hwynt yn waed, ac i daro'r ddaear â phob pla, cyn fynyched ag y mynnont.
7 A phan ddarfyddo iddynt orffen eu tystiolaeth, y bwystfil, yr hwn sydd yn dyfod allan o'r pwll diwaelod, a ryfela â hwynt, ac a'u gorchfyga hwynt, ac a'u lladd hwynt.
8 A'u cyrff hwynt a orwedd ar heolydd y ddinas fawr, yr hon yn ysbrydol a elwir Sodom a'r Aifft; lle hefyd y croeshoeliwyd ein Harglwydd ni.
9 A'r rhai o'r bobloedd, a'r llwythau, a'r ieithoedd, a'r cenhedloedd, a welant eu cyrff hwynt dridiau a hanner, ac ni oddefant roi eu cyrff hwy mewn beddau.
10 A'r rhai sydd yn trigo ar y ddaear a lawenychant o'u plegid, ac a ymhyfrydant, ac a anfonant roddion i'w gilydd; oblegid y ddau broffwyd hyn oedd yn poeni'r rhai oedd yn trigo ar y ddaear.
11 Ac ar ôl tridiau a hanner, Ysbryd bywyd oddi wrth Dduw a aeth i mewn iddynt hwy, a hwy a safasant ar eu traed; ac ofn mawr a syrthiodd ar y rhai a'u gwelodd hwynt.
12 A hwy a glywsant lef uchel o'r nef yn dywedyd wrthynt, Deuwch i fyny yma. A hwy a aethant i fyny i'r nef mewn cwmwl; a'u gelynion a edrychasant arnynt.