2 A'r bwystfil a welais i oedd debyg i lewpard, a'i draed fel traed arth, a'i safn fel safn llew: a'r ddraig a roddodd iddo ef ei gallu, a'i gorseddfainc, ac awdurdod mawr.
3 Ac mi a welais un o'i bennau ef megis wedi ei ladd yn farw; a'i friw marwol ef a iachawyd: a'r holl ddaear a ryfeddodd ar ôl y bwystfil.
4 A hwy a addolasant y ddraig, yr hon a roes allu i'r bwystfil: ac a addolasant y bwystfil, gan ddywedyd, Pwy sydd debyg i'r bwystfil? pwy a ddichon ryfela ag ef?
5 A rhoddwyd iddo ef enau yn llefaru pethau mawrion, a chabledd; a rhoddwyd iddo awdurdod i weithio ddau fis a deugain.
6 Ac efe a agorodd ei enau mewn cabledd yn erbyn Duw, i gablu ei enw ef, a'i dabernacl, a'r rhai sydd yn trigo yn y nef.
7 A rhoddwyd iddo wneuthur rhyfel â'r saint, a'u gorchfygu hwynt: a rhoddwyd iddo awdurdod ar bob llwyth ac iaith, a chenedl.
8 A holl drigolion y ddaear a'i haddolant ef, y rhai nid yw eu henwau yn ysgrifenedig yn llyfr bywyd yr Oen yr hwn a laddwyd er dechreuad y byd.