5 A rhoddwyd iddo ef enau yn llefaru pethau mawrion, a chabledd; a rhoddwyd iddo awdurdod i weithio ddau fis a deugain.
6 Ac efe a agorodd ei enau mewn cabledd yn erbyn Duw, i gablu ei enw ef, a'i dabernacl, a'r rhai sydd yn trigo yn y nef.
7 A rhoddwyd iddo wneuthur rhyfel â'r saint, a'u gorchfygu hwynt: a rhoddwyd iddo awdurdod ar bob llwyth ac iaith, a chenedl.
8 A holl drigolion y ddaear a'i haddolant ef, y rhai nid yw eu henwau yn ysgrifenedig yn llyfr bywyd yr Oen yr hwn a laddwyd er dechreuad y byd.
9 Od oes gan neb glust, gwrandawed.
10 Os yw neb yn tywys i gaethiwed, efe a â i gaethiwed: os yw neb yn lladd â chleddyf, rhaid yw ei ladd yntau â chleddyf. Dyma amynedd a ffydd y saint.
11 Ac mi a welais fwystfil arall yn codi o'r ddaear; ac yr oedd ganddo ddau gorn tebyg i oen, a llefaru yr oedd fel draig.