8 A holl drigolion y ddaear a'i haddolant ef, y rhai nid yw eu henwau yn ysgrifenedig yn llyfr bywyd yr Oen yr hwn a laddwyd er dechreuad y byd.
9 Od oes gan neb glust, gwrandawed.
10 Os yw neb yn tywys i gaethiwed, efe a â i gaethiwed: os yw neb yn lladd â chleddyf, rhaid yw ei ladd yntau â chleddyf. Dyma amynedd a ffydd y saint.
11 Ac mi a welais fwystfil arall yn codi o'r ddaear; ac yr oedd ganddo ddau gorn tebyg i oen, a llefaru yr oedd fel draig.
12 A holl allu'r bwystfil cyntaf y mae efe yn ei wneuthur ger ei fron ef, ac yn peri i'r ddaear ac i'r rhai sydd yn trigo ynddi addoli'r bwystfil cyntaf, yr hwn yr iachawyd ei glwyf marwol.
13 Ac y mae efe yn gwneuthur rhyfeddodau mawrion, hyd onid yw yn peri i dân ddisgyn o'r nef i'r ddaear, yng ngolwg dynion;
14 Ac y mae efe yn twyllo'r rhai sydd yn trigo ar y ddaear, trwy'r rhyfeddodau y rhai a roddwyd iddo ef eu gwneuthur gerbron y bwystfil; gan ddywedyd wrth drigolion y ddaear, am iddynt wneuthur delw i'r bwystfil yr hwn a gafodd friw gan gleddyf, ac a fu fyw.