15 Ac angel arall a ddaeth allan o'r deml, gan lefain â llef uchel wrth yr hwn oedd yn eistedd ar y cwmwl, Bwrw dy gryman i mewn, a meda: canys daeth yr amser i ti i fedi; oblegid aeddfedodd cynhaeaf y ddaear.
16 A'r hwn oedd yn eistedd ar y cwmwl a fwriodd ei gryman ar y ddaear; a'r ddaear a fedwyd.
17 Ac angel arall a ddaeth allan o'r deml sydd yn y nef, a chanddo yntau hefyd gryman llym.
18 Ac angel arall a ddaeth allan oddi wrth yr allor, yr hwn oedd â gallu ganddo ar y tân; ac a lefodd â bloedd uchel ar yr hwn oedd â'r cryman llym ganddo, gan ddywedyd, Bwrw i mewn dy gryman llym, a chasgl ganghennau gwinwydden y ddaear: oblegid aeddfedodd ei grawn hi.
19 A'r angel a fwriodd ei gryman ar y ddaear, ac a gasglodd winwydden y ddaear, ac a'i bwriodd i gerwyn fawr digofaint Duw.
20 A'r gerwyn a sathrwyd o'r tu allan i'r ddinas; a gwaed a ddaeth allan o'r gerwyn, hyd at ffrwynau'r meirch, ar hyd mil a chwe chant o ystadau.