6 Oblegid gwaed saint a phroffwydi a dywalltasant hwy, a gwaed a roddaist iddynt i'w yfed; canys y maent yn ei haeddu.
7 Ac mi a glywais un arall allan o'r allor yn dywedyd, Ie, Arglwydd Dduw Hollalluog, cywir a chyfiawn yw dy farnau di.
8 A'r pedwerydd angel a dywalltodd ei ffiol ar yr haul; a gallu a roed iddo i boethi dynion â thân.
9 A phoethwyd y dynion â gwres mawr; a hwy a gablasant enw Duw, yr hwn sydd ag awdurdod ganddo ar y plâu hyn: ac nid edifarhasant, i roi gogoniant iddo ef.
10 A'r pumed angel a dywalltodd ei ffiol ar orseddfainc y bwystfil; a'i deyrnas ef a aeth yn dywyll: a hwy a gnoesant eu tafodau gan ofid,
11 Ac a gablasant Dduw'r nef, oherwydd eu poenau, ac oherwydd eu cornwydydd; ac nid edifarhasant oddi wrth eu gweithredoedd.
12 A'r chweched angel a dywalltodd ei ffiol ar yr afon fawr Ewffrates; a sychodd ei dwfr hi, fel y paratoid ffordd brenhinoedd y dwyrain.