6 Ac mi a welais y wraig yn feddw gan waed y saint, a chan waed merthyron Iesu: a phan ei gwelais, mi a ryfeddais â rhyfeddod mawr.
7 A'r angel a ddywedodd wrthyf, Paham y rhyfeddaist? myfi a ddywedaf i ti ddirgelwch y wraig a'r bwystfil sydd yn ei dwyn hi, yr hwn sydd â'r saith ben ganddo, a'r deg corn.
8 Y bwystfil a welaist, a fu, ac nid yw; a bydd iddo ddyfod i fyny o'r pydew heb waelod, a myned i ddistryw: a rhyfeddu a wna'r rhai sydd yn trigo ar y ddaear, y rhai nid ysgrifennwyd eu henwau yn llyfr y bywyd er seiliad y byd, pan welont y bwystfil, yr hwn a fu, ac nid yw, er ei fod.
9 Dyma'r meddwl sydd â doethineb ganddo. Y saith ben, saith fynydd ydynt, lle mae'r wraig yn eistedd arnynt.
10 Ac y mae saith frenin: pump a gwympasant, ac un sydd, a'r llall ni ddaeth eto; a phan ddêl, rhaid iddo aros ychydig.
11 A'r bwystfil, yr hwn oedd, ac nid ydyw, yntau yw'r wythfed, ac o'r saith y mae, ac i ddistryw y mae'n myned.
12 A'r deg corn a welaist, deg brenin ydynt, y rhai ni dderbyniasant frenhiniaeth eto; eithr awdurdod fel brenhinoedd, un awr, y maent yn ei dderbyn gyda'r bwystfil.