1 Ac ar ôl y pethau hyn mi a welais angel arall yn dyfod i waered o'r nef, ac awdurdod mawr ganddo; a'r ddaear a oleuwyd gan ei ogoniant ef.
2 Ac efe a lefodd yn groch â llef uchel, gan ddywedyd, Syrthiodd, syrthiodd Babilon fawr honno, ac aeth yn drigfa cythreuliaid, ac yn gadwraeth pob ysbryd aflan, ac yn gadwraeth pob aderyn aflan ac atgas.
3 Oblegid yr holl genhedloedd a yfasant o win digofaint ei godineb hi, a brenhinoedd y ddaear a buteiniasant gyda hi, a marchnatawyr y ddaear a gyfoethogwyd gan amlder ei moethau hi.
4 Ac mi a glywais lef arall o'r nef yn dywedyd, Deuwch allan ohoni hi, fy mhobl i, fel na byddoch gyd-gyfranogion o'i phechodau hi, ac na dderbynioch o'i phlâu hi.
5 Oblegid ei phechodau hi a gyraeddasant hyd y nef, a Duw a gofiodd ei hanwireddau hi.
6 Telwch iddi fel y talodd hithau i chwi, a dyblwch iddi'r dau cymaint yn ôl ei gweithredoedd: yn y cwpan a lanwodd hi, llenwch iddi yn ddauddyblyg.
7 Cymaint ag yr ymogoneddodd hi, ac y bu mewn moethau, y cymaint arall rhoddwch iddi o ofid a galar: oblegid y mae hi yn dywedyd yn ei chalon, Yr wyf yn eistedd yn frenhines, a gweddw nid ydwyf, a galar nis gwelaf ddim.