11 A marchnatawyr y ddaear a wylant ac a alarant drosti; oblegid nid oes neb mwyach yn prynu eu marsiandïaeth hwynt:
12 Marsiandïaeth o aur, ac arian, a meini gwerthfawr, a pherlau, a lliain main, a phorffor, a sidan, ac ysgarlad, a phob coed thynon, a phob llestr o ifori, a phob llestr o goed gwerthfawr iawn, ac o bres, ac o haearn, ac o faen marmor,
13 A sinamon, a pheraroglau, ac ennaint, a thus, a gwin, ac olew, a pheilliaid, a gwenith, ac ysgrubliaid, a defaid, a meirch, a cherbydau, a chaethweision, ac eneidiau dynion.
14 A'r aeron a chwenychodd dy enaid a aethant ymaith oddi wrthyt, a phob peth danteithiol a gwych a aethant ymaith oddi wrthyt; ac ni chei hwynt ddim mwyach.
15 Marchnatawyr y pethau hyn, y rhai a gyfoethogwyd ganddi, a safant o hirbell oddi wrthi, gan ofn ei gofid hi, gan wylo a galaru.
16 A dywedyd, Gwae, gwae, y ddinas fawr honno, yr hon oedd wedi ei gwisgo â lliain main, a phorffor, ac ysgarlad, ac wedi ei gwychu ag aur, a meini gwerthfawr, a pherlau!
17 Oblegid mewn un awr yr anrheithiwyd cymaint cyfoeth. A phob llong-lywydd, a phob cwmpeini mewn llongau, a llongwyr, a chynifer ag y sydd â'u gwaith ar y môr, a safasant o hirbell,