16 A dywedyd, Gwae, gwae, y ddinas fawr honno, yr hon oedd wedi ei gwisgo â lliain main, a phorffor, ac ysgarlad, ac wedi ei gwychu ag aur, a meini gwerthfawr, a pherlau!
17 Oblegid mewn un awr yr anrheithiwyd cymaint cyfoeth. A phob llong-lywydd, a phob cwmpeini mewn llongau, a llongwyr, a chynifer ag y sydd â'u gwaith ar y môr, a safasant o hirbell,
18 Ac a lefasant, pan welsant fwg ei llosgiad hi, gan ddywedyd, Pa ddinas debyg i'r ddinas fawr honno!
19 A hwy a fwriasant lwch ar eu pennau, ac a lefasant, gan wylo a galaru, a dywedyd, Gwae, gwae, y ddinas fawr honno, yn yr hon y cyfoethogodd yr holl rai oedd ganddynt longau ar y môr, trwy ei chost hi! oblegid mewn un awr yr anrheithiwyd hi.
20 Llawenha o'i phlegid hi, y nef, a chwi, apostolion sanctaidd a phroffwydi; oblegid dialodd Duw arni drosoch chwi.
21 Ac angel cadarn a gododd faen megis maen melin mawr, ac a'i bwriodd i'r môr, gan ddywedyd, Fel hyn gyda rhuthr y teflir Babilon, y ddinas fawr, ac ni cheir hi mwyach.
22 A llais telynorion, a cherddorion, a phibyddion, ac utganwyr, ni chlywir ynot mwyach: ac un crefftwr, o ba grefft bynnag y bo, ni cheir ynot mwyach; a thrwst maen melin ni chlywir ynot mwyach;