21 Ac angel cadarn a gododd faen megis maen melin mawr, ac a'i bwriodd i'r môr, gan ddywedyd, Fel hyn gyda rhuthr y teflir Babilon, y ddinas fawr, ac ni cheir hi mwyach.
22 A llais telynorion, a cherddorion, a phibyddion, ac utganwyr, ni chlywir ynot mwyach: ac un crefftwr, o ba grefft bynnag y bo, ni cheir ynot mwyach; a thrwst maen melin ni chlywir ynot mwyach;
23 A llewyrch cannwyll ni welir ynot mwyach; a llais priodasfab a phriodasferch ni chlywir ynot mwyach: oblegid dy farchnatawyr di oedd wŷr mawr y ddaear: oblegid trwy dy swyn-gyfaredd di y twyllwyd yr holl genhedloedd.
24 Ac ynddi y caed gwaed proffwydi a saint, a phawb a'r a laddwyd ar y ddaear.